671 Cymundeb Torrwn fara ar ein gliniau yn gytûn, torrwn fara ar ein gliniau yn gytûn, a phan rof fy ngliniau i lawr gan ŵynebu haul y wawr, O Dduw, bydd drugarog wrthyf fi. Yfwn win ar ein gliniau yn gytûn, yfwn win ar ein gliniau yn gytûn, a phan rof fy ngliniau i lawr gan ŵynebu haul y wawr, O Dduw, bydd drugarog wrthyf fi. Molwn Dduw ar ein gliniau yn gytûn, molwn Dduw ar ein gliniau yn gytûn, a phan rof fy ngliniau i lawr gan ŵynebu haul y wawr, O Dduw, bydd drugarog wrthyf fi. CÂN AFFRO-AMERICANAIDD cyf. R. GLYNDWR WILLIAMS